Cyngor Gwynedd
Bydd Canolfan Waith Manton yng Nghaernarfon, sy’n rhoi cyfleoedd  i bobl anabl a phobl ag anawsterau dysgu weithio a meithrin sgiliau newydd, yn cau’r flwyddyn nesaf.

Yn ôl Cyngor Gwynedd, ni fydd y ganolfan yn parhau yn ei ffurf bresennol ar ôl mis Ebrill 2016 oherwydd toriadau.

Bydd yn cau ei drysau ar ôl bron i 60 mlynedd o wasanaeth – agorwyd y ganolfan am y tro cyntaf gan wirfoddolwyr yn 1957. 18 o unigolion sy’n defnyddio’r ganolfan ar hyn o bryd.

Ymgyrch i achub y ganolfan

Mae’r newyddion hwn wedi bod yn sioc i lawer, gan gynnwys teuluoedd defnyddwyr Canolfan Manton sy’n honni na chawson nhw unrhyw fath o ymgynghoriad ar y cynnig i gau.

“Byddaf yn ceisio fy ngorau i sicrhau fod gweithwyr Manton a’u teuluoedd yn cael gwrandawiad teg gan y Cyngor Sir. Rwyf newydd gyfarfod un rhiant pryderus, sydd wedi mynegi anfodlonrwydd garw efo’r broses o ymgynghori,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol dros Arfon.

“Rwy’n ysgrifennu at y Cyngor i fynegi ei phryderon a gofyn am ymateb llawn. Beth bynnag a ddigwydd i Manton, bydd angen sicrhau gwasanaeth priodol i’r gweithwyr.”

Nid oedd Mike Bee, Rheolwr y Ganolfan mewn sefyllfa i wneud sylw am y penderfyniad ond fe ddywedodd wrth golwg360 bod ‘pryder enfawr’ ymhlith defnyddwyr y gwasanaeth.

Ymateb Cyngor Gwynedd

Dywedodd Cyngor Gwynedd: “Mae staff gofal cymdeithasol y Cyngor wedi cyfarfod gydag unigolion sy’n mynychu gwasanaeth dydd Manton ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu i esbonio y bydd yna rhai newidiadau i’r gwasanaeth maent yn ei dderbyn o fis Ebrill 2016 ymlaen.

“Rydan ni’n gwerthfawrogi fod unrhyw newid yn gallu bod yn anodd, a dyna pam y bydd staff gofal cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, yn parhau i weithio’n agos gyda phawb sy’n mynychu’r ganolfan a’u teuluoedd i sefydlu eu hanghenion unigol fel y gallwn osod cefnogaeth addas ar eu cyfer.

“Ein bwriad yn y trafodaethau yma fydd datblygu pecynnau gofal fydd yn cwrdd â’u hanghenion a’u dyheadau yn llawn.”