Nadia Jones
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth dynes 38 mlwydd oed o Dremorfa, Caerdydd.

Daethpwyd o hyd i gorff Nadia Jones tua chanol dydd, ddydd Gwener 11 Medi yn ei fflat yn Meirion Place.

Cafodd pum dyn eu harestio mewn cysylltiad â’i llofruddiaeth, ond mae dau ddyn, 32 a 36 oed, bellach wedi’u rhyddhau.

Mae’r heddlu wedi cadw’r tri dyn – 27, 30  a 36 oed – yn y ddalfa.

Apelio am wybodaeth

Mae swyddogion cyswllt yr heddlu yn parhau i gynnig cefnogaeth i deulu Nadia Jones.

Mae’r heddlu wedi neilltuo ystafell achos yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd er mwyn ymchwilio i’r achos, ac mae swyddogion arbenigol yn gweithio yno.

Dywed yr Heddlu eu bod yn ddiolchgar i aelodau o’r gymuned am eu cefnogaeth ac am unrhyw wybodaeth y maen nhw eisoes wedi’i ddarparu.

Ond, dylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth bellach am yr achos gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1500334982. Fel arall, gallan nhw gysylltu’n ddienw â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.