Nia Griffith
Nia Griffith sydd wedi cael ei phenodi i rôl llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig yng nghabinet cysgodol yr arweinydd Llafur newydd Jeremy Corbyn.
Cafodd Aelod Seneddol Llanelli ei phenodi i’r cabinet cysgodol prynhawn dydd Llun, ac mae hi’n cymryd lle AS Pontypridd Owen Smith ar fainc flaen Llafur.
Mae Jeremy Corbyn bellach wedi cwblhau’r broses o benodi ei dîm, gyda John McDonnell yn cael rôl y Canghellor Cysgodol ac Andy Burnham yn cael rôl materion cartref.
Cafodd Jeremy Corbyn ei feirniadu ddoe am beidio â phenodi unrhyw ferched i un o brif swyddi’r fainc flaen, ond yn y rhestr lawn mae 16 o ferched ac 15 o ddynion, y Cabinet Cysgodol cyntaf i gael mwy o ferched ynddi.
Tri o Gymru
Mae Nia Griffith, sydd yn siarad Cymraeg, wedi bod yn Aelod Seneddol dros etholaeth Llanelli ers 2005.
Tri Aelod Seneddol o Gymru sydd ar y rhestr derfynol o aelodau yng nghabinet cysgodol Jeremy Corbyn.
Mae Owen Smith wedi symud o rôl Llefarydd Llafur ar faterion Cymreig i fod yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yr wrthblaid.
Cafodd Chris Bryant, oedd gynt â phortffolio Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon, rôl newydd fel llefarydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin.
Roedd Jeremy Corbyn wedi cynnig y portffolio Amddiffyn i Chris Bryant, ond dywedodd AS y Rhondda fod ganddo wahaniaethau barn â’i arweinydd ar sawl mater gan gynnwys Nato.
‘Buddugoliaeth ysgubol’
Wrth drafod ei rôl newydd yng nghabinet yr wrthblaid fe gyfaddefodd Nia Griffith bod buddugoliaeth Jeremy Corbyn yn y ras am arweinyddiaeth Llafur wedi bod yn syndod mawr.
“Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael cynnig rôl fel Llefarydd Llafur ar faterion Cymreig, gan adeiladu ar waith fy rhagflaenydd Owen Smith,” meddai Nia Griffith.
“Mae Jeremy Corbyn wedi trechu pob disgwyliad gyda’i fuddugoliaeth ysgubol yn y ras am arweinyddiaeth Llafur, ac mae nawr yn hanfodol ein bod ni i gyd yn ei gefnogi er mwyn ymladd dros beth rydyn ni’n ei gredu – cymdeithas decach a mwy hafal.
“Yng Nghymru mae gan lywodraeth Lafur Cymru record wych o gyflawni ac rydw i’n edrych ymlaen at weithio’n agos â Jeremy, Carwyn a thîm Llafur Cymru i gyd er mwyn dod a buddugoliaeth Lafur arall yng Nghymru yn 2016 a thu hwnt.”
Croeso Carwyn
Cafodd Nia Griffith ei chroesawu i’w rôl newydd gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Ond fe gyfeiriodd ati fel y “ddynes Lafur gyntaf i ddal y swydd un ai mewn llywodraeth neu fel Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid”, er bod Ann Clwyd wedi dal y portffolio hwnnw rhwng 1992 ac 1993.
“Hoffwn longyfarch Nia Griffith ac Owen Smith ar eu hapwyntiadau heddiw,” meddai Carwyn Jones.
“Mae Nia eisoes wedi gwneud gwaith gwych fel Gweinidog Cymru’r wrthblaid yn barod, ac mae’r dyrchafiad hwn yn un haeddiannol. Mae ei chanlyniad yn Llanelli ym mis Mai yn dweud popeth am ei gallu i ymgyrchu.
“Rydw i’n gwybod y bydd hi’n sicrhau fod llais Cymru’n cael ei glywed yn uchel a chlir yn San Steffan. Fel y ddynes Lafur gyntaf i ddal y swydd un ai mewn llywodraeth neu fel Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid, alla’i ddim meddwl am unrhyw un gwell i greu’r hanes yna.”
Cabinet yr wrthblaid:
Arweinydd yr wrthblaid: Jeremy Corbyn
Dirprwy arweinydd yr wrthblaid: Tom Watson
Canghellor cysgodol: John McDonnell
Ysgrifennydd Cartref cysgodol: Andy Burnham
Ysgrifennydd Tramor cysgodol: Hilary Benn
Ysgrifennydd Iechyd cysgodol: Heidi Alexander
Ysgrifennydd Amddiffyn cysgodol: Maria Eagle
Prif Ysgrifennydd y Trysorlys cysgodol: Seema Malhotra
Ysgrifennydd Busnes a Phrif Ysgrifennydd Gwladol cysgodol: Angela Eagle
Ysgrifennydd Cyfiawnder cysgodol: Arglwydd Falconer
Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon cysgodol: Vernon Coaker
Ysgrifennydd Gwladol yr Alban cysgodol: Ian Murray
Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol cysgodol: Diane Abbott
Prif Chwip: Rosie Winterton
Ysgrifennydd Addysg cysgodol: Lucy Powell
Arweinydd Tŷ’r Cyffredin cysgodol: Chris Bryant
Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau cysgodol: Owen Smith
Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd Confensiwn Cyfansoddiadol cysgodol: Jon Trickett
Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd cysgodol: Lisa Nandy
Ysgrifennydd Trafnidiaeth cysgodol: Lilian Greenwood
Ysgrifennydd Cymru cysgodol: Nia Griffith
Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cysgodol: Kerry McCarthy
Ysgrifennydd Merched a Chydraddoldeb cysgodol: Kate Green
Ysgrifennydd Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon cysgodol: Michael Dugher
Ysgrifennydd Pobl Ifanc a Chofrestru Etholwyr cysgodol: Gloria De Piero
Ysgrifennydd Iechyd Meddwl cysgodol: Luciana Berger
Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi cysgodol: Y Farwnes Smith
Prif Chwip yr Arglwyddi: Yr Arglwydd Bassam
Twrnai Cyffredinol cysgodol: Catherine McKinnell
Gweinidog heb bortffolio cysgodol: Jonathan Ashworth
Ysgrifennydd Tai a Chynllunio cysgodol: John Healey