Wyn Davies
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cyllido rhagor o ddarlithwyr eleni am y pumed flwyddyn yn olynol gan ehangu’r ddarpariaeth o addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhai o brifysgolion Cymru.

Bydd y Coleg yn penodi darlithwyr ym meysydd newydd gan gynnwys Fferylliaeth, Astudiaethau Tir ac Eiddo a Therapi Iaith a Lleferydd.

Canwr Only Men Aloud ymhlith y darlithwyr newydd

Y canwr cyfarwydd, Wyn Davies o Only Men Aloud fydd un o’r rhai fydd yn arwain y ddarpariaeth Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Mae darpariaeth a gwasanaeth fferylliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn agos at fy nghalon ers cymhwyso fel fferyllydd. Felly mae’r cyfle i ddychwelyd i Brifysgol Caerdydd i ddarlithio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gyfle euraidd i sicrhau bod darpariaeth Gymraeg yn rhan greiddiol o’r gwasanaeth iechyd,” meddai Wyn Davies o Gastell-nedd.

Owain Llywelyn o Gaerdydd fydd darlithydd y Coleg Cymraeg ym maes Tirfesureg ac Astudiaethau Tir ac Eiddo, sydd â dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr sawl cwmni cyhoeddus yn y sector breifat yn ogystal â darlithio.

Fel rhan o’i swydd, bydd yn datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ym meysydd Adeiladwaith a Thirfesuriaeth a chynyddu’r niferoedd sy’n ymgeisio am gyrsiau addysg uwch ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae’r swyddi eraill sydd wedi’u dyfarnu ym meysydd Economeg, Sŵoleg, Peirianneg, Biofeddygaeth, Biofilfeddygaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd, Gwyddorau Amgylcheddol, Celf a Dylunio a Busnes.

Datblygu Addysg Bellach yn y Gymraeg

Bydd y sector Addysg Bellach hefyd yn cael ei gynnwys yn narpariaeth y Coleg, gyda swydd hefyd wedi’u lleoli yng Ngholeg Sir Gâr ar y cwrs Amaeth ac un arall yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Llandrillo Menai ar y cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

‘‘Rydym yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn y nifer sy’n astudio’r pynciau trwy’r Gymraeg yn sgil buddsoddiad y Coleg. Rydym yn hynod falch fel Coleg o weld twf darpariaeth Gymraeg mewn meysydd newydd felly mae’r datblygiadau yma i’w croesawu’n fawr, meddai Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.