Mae dyn 51 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 47 oed yn ei chartref yng Nglannau Mersi.

Cafodd Anne Marie Cropper ei darganfod yn ei fflat yn Southport yn oriau man bore Iau ag anafiadau i’w phen a’i brest, a bu farw’n ddiweddarach.

Bydd Ian Gordon, 51, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Sefton yn Bootle fore Llun, ac mae e wedi’i gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.