Mae’r Cymro Owain Doull wedi gorffen yn drydydd yn y Dosbarthiad Cyffredinol yng nghystadleuaeth seiclo’r Tour of Britain ar y diwrnod olaf.

Sicrhaodd Doull, sy’n cystadlu i Team Wiggins, fonws o ddwy eiliad i’w godi i’r trydydd safle wrth i’r ras ddirwyn i ben yn Llundain.

Daeth Doull, sy’n Gymro Cymraeg o Gaerdydd, i’r brig yn y cystadleuaeth pwyntiau, ac fe gipiodd deitl y seiclwr gorau o wledydd Prydain.

Mae e wedi’i gynnwys yng ngharfan dan 23 oed Prydain ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd ar y Ffordd ym mis Medi.

Y cymal olaf

Cael a chael oedd hi rhwng Andre Greipel o’r Almaen (tîm Lotto Soudal) a’r Eidalwr Elia Viviani (Team Sky) wrth iddyn nhw fynd ben-ben i ennill y cymal olaf.

Roedd hi’n edrych i bob pwrpas fel pe bai Greipel yn fuddugol ond yn dilyn ymchwiliad gan y beirniad, Viviani aeth â hi.

Edvald Boasson Hagen o Norwy (tîm MTN-Qhubeka) gipiodd y wobr Dosbarthiad Cyffredinol gyda mantais o 13 eiliad dros yr Iseldirwr Woult Poels (Team Sky).