Gweilch 18–20 Munster
Sgoriodd CJ Stander gais i Munster gyda symudiad olaf y gêm wrth iddynt drechu’r Gweilch ar y Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.
Roedd cicio cywir Sam Davies wedi rhoi’r Gweilch mewn sefyllfa dda i ennill y gêm ond cipiwyd y fuddugoliaeth o’u gafael gan y cais hwyr a throsiad Ian Keatley.
Hanner Cyntaf
Y Gweilch heb os a gafodd y gorau o’r deg munud cyntaf ac ar ôl cyfnod da o bwyso roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Davies wedi deg munud.
Unionodd maswr Munster, Tyler Bleyendaal, bethau bron yn syth gyda chic gosb a daeth yr ymwelwyr fwyfwy i’r gêm yn raddol wrth i’r hanner fynd yn ei flaen.
Rhoddodd ail gic Bleyendaal y Gwyddelod ar y blaen am y tro cyntaf wyth munud cyn yr egwyl ond llwyddodd y Gweilch i orffen yr hanner yn gryf.
Unionodd Davies y sgôr gyda’i ail gic lwyddiannus bedwar munud cyn yr egwyl, cyn adfer tri phwynt o fantais y Gweilch gyda chic olaf yr hanner.
Ail Hanner
Ymestynnodd Davies y bwlch i chwe phwynt gyda chic arall ar ddechrau’r ail hanner ond Munster a gafodd gais cyntaf y prynhawn.
Daeth hwnnw wedi 13 munud o’r ail gyfnod pan anelodd Bleyendaal gic letraws gywir i ddwylo Stephen Fitzgerald ar y chwith i greu cais syml i’r asgellwr. Rhoddodd trosiad y maswr y Gwyddelod bwynt ar y blaen gydag ychydig dros chwarter y gêm i fynd.
Rhoddodd pumed cic lwyddiannus Davies y Gweilch yn ôl ar y blaen ddeunaw munud o’r diwedd cyn i’w chweched, yn dilyn sgrym orau’r gêm gan flaenwyr y tîm cartref, ymestyn y bwlch.
Roedd gan y Cymry ddeg munud i ddal eu gafael a bu bron iddynt wneud hynny ond roedd y pwysau yn ormod yn y diwedd wrth i’r eilydd wythwr, Stander, hyrddio drosodd am gais hwyr.
Deunaw pwynt yr un oedd hi wedi’r cais hwnnw ond trosodd Keatley y gic syml i ennill y gêm i’r Gwyddelod.
.
Gweilch
Ciciau Cosb: Sam Davies 10’, 36’, 40’, 47’, 63’, 70’
.
Munster
Ceisiau: Stephen Fitzgerald 53’, CJ Stander 80’
Trosiadau: Tyler Bleyendaal 54’, Ian Keatley 80’
Ciciau Cosb: Tyler Bleyendaal 13’, 32’