Mae’r rhedwr Olympaidd Mo Farah wedi llwyddo i amddiffyn ei deitl yn y Great North Run yn Newcastle.

Roedd 57,000 o bobol wedi cymryd rhan yn yr hanner marathon, a Farah ddaeth i’r brig yn ras y dynion am yr ail flwyddyn o’r bron.

Gorffennodd y ras o fewn awr.

Roedd llwyddiant i David Weir a Shelly Woods yn y rasus cadair olwyn.

Mary Keitany o Kenya ddaeth i’r brig yn ras y menywod, gan orffen mewn 1 awr, 7 munud a 32 eiliad.

Roedd yr Athro Brian Cox, y rhwyfwr James Cracknell, y gyflwynwraig deledu Steph McGovern a’r cyn bêl-droediwr Kevin Kilbane ymhlith yr enwogion a gymerodd ran yn y ras.

Mae disgwyl i hyd at £25 miliwn gael ei godi at achosion da drwy’r ras eleni.