Mae capten tîm criced Lloegr, Eoin Morgan yn derbyn triniaeth am gyfergyd wedi iddo gael ei daro yn ei ben yn ystod gornest undydd yn erbyn Awstralia yn Old Trafford fore Sul.
Cafodd Morgan ei daro oddi ar fownsar gan fowliwr cyflym llaw chwith Awstralia, Mitchell Starc ar gyflymdra o 90 milltir yr awr.
Trodd Morgan, 29, ei gefn ar y bowliwr wrth iddo gael ei daro ar ei helmed.
Arhosodd y Gwyddel ar ei draed wrth i’r staff meddygol ddod i’r cae, ond fe fu’n rhaid i Morgan adael wedi ychydig funudau.
Daeth cadarnhad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr ei fod yn derbyn triniaeth am gyfergyd.
Mae diogelwch chwaraewyr o dan y chwyddwydr ers i Philip Hughes farw yn dilyn ergyd i’w ben yn ystod gornest yn Awstralia.