Fe fydd y Gweilch yn herio Munster brynhawn Sul yn eu gêm gartref gyntaf yng nghystadleuaeth y PRO12 y tymor hwn.
Dydy 12 o chwaraewyr y rhanbarth ddim ar gael oherwydd eu bod yn chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd, sy’n dechrau ddiwedd yr wythnos hon.
Mae wyth o chwaraewyr eraill y Gweilch allan oherwydd anafiadau.
Bydd y clo Lloyd Ashley a’r maswr Sam Davies yn ymddangos yng nghrys y rhanbarth am yr hanner canfed tro.
Mae’r canolwr Owen Watkin, y mewnwr Brendon Leonard a’r blaenasgellwr Sam Underhill yn ymddangos yn y pymtheg am y tro cyntaf.
Bydd Aled Jenkins yn chwarae yn ei gêm gyntaf pe bai’n dod oddi ar y fainc.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy ei fod yn awyddus i’w dîm daro’n ôl ar ôl colli yn Ulster o 28-6 yr wythnos diwethaf ar benwythnos agoriadol y PRO12.
“Roedd yn amlwg yn ddechrau siomedig i’r tymor wrth i ni golli fel gwnaethon ni’r penwythnos diwethaf yn Ulster, ond fe fydd yn profi ein cymeriad yn feddyliol fel grŵp nawr wrth daro’n ôl a sicrhau’r math o berfformiad sy’n ddisgwyliedig gan dîm y Gweilch ddydd Sul yma.”
Ychwanegodd nad yw’n rhan o natur y Gweilch i wneud esgusodion nac esgeuluso’u cyfrifoldeb.
Tra bod y Gweilch am ennill ar y cae, fe fyddan nhw’n talu teyrnged i un o’u cyn-chwaraewyr, Jerry Collins cyn y gêm.
Bu farw Collins a’i wraig Alana Madill mewn gwrthdrawiad yn Ffrainc ym mis Mehefin, a chafodd eu babi tri mis oed, Ayla anafiadau ac mae hi’n parhau i dderbyn triniaeth.
Bydd y crys rhif 6 – sef rhif Collins i’r Gweilch – yn cael ei roi o’r neilltu gan y rhanbarth am y diwrnod, ac fe fydd munud o dawelwch cyn yr ornest wrth i flodau gael eu gosod wrth ymyl y cae.
Ychwanegodd Steve Tandy: “Fe fydd yn brynhawn emosiynol gyda’r deyrnged i Jerry felly mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio’r emosiwn yn y ffordd gywir a dangos gwir ysbryd y Gweilch, yr ysbryd oedd yn cael ei grisialu gan JC.
“Mae’n bwysig i ni roi perfformiad y bydd y cefnogwyr yn falch ohono ac y byddai Jerry yn falch ohono.”
Bydd y gêm yn fyw ar S4C am 2.30.
Y Gweilch: D Evans, K Phillips, J Spratt, O Watkin, H Dirksen, S Davies, B Leonard, N Smith, S Parry, D Arhip, L Ashley (capten), R Thornton, J Bearman, S Underhill, D Baker
Eilyddion: S Otten, M Thomas, C Griffiths, De Kock Steenkamp, O Cracknell, T Habberfield, A Jenkins, R Fussell
Munster: F Jones (capten), A Conway, F Saili, R Scannell, S Fitzgerald, T Bleyendaal, C Sheridan, D Kilcoyne, M Sherry, S Archer, M Chisholm, D Foley, D O’Callaghan, J O’Donoghue, R Copeland
Eilyddion: D Casey, J Cronin, BJ Botha, J Coghlan, CJ Stander, D Williams, I Keatley, D Johnston