Mae mwy na 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Ironman Cymru yn Ninbych-y-Pysgod heddiw.
Bydd gofyn i gystadleuwyr nofio pellter o 2.4 milltir, seiclo pellter o 112 milltir a gorffen drwy redeg marathon.
Bydd y 50 uchaf yn cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Ironman y byd.
Hon yw blwyddyn ola’r cytundeb pum mlynedd presennol, ond mae’r trefnwyr yn ffyddiog y gallan nhw barhau i gynnal y digwyddiad yn y dref ar lan y môr.
Fe fu pryderon am fesurau diogelwch y digwyddiad yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng fan a seiclwr mewn digwyddiad arall yn y dref dros yr haf.
Ond mae trafodaethau eisoes ar y gweill gyda’r Cyngor Sir i’r perwyl hwnnw.
Ymhlith y rhai fydd yn cystadlu mae aelodau o glwb triathlon Celtic Tri, fydd yn talu teyrnged i un o’i aelodau, Steve Lewis o Ystradgynlais.
Cafodd ei ladd yn Nyfnaint dros yr haf tra’n ymarfer ar gyfer y digwyddiad.
Roedd beic Steve Lewis, oedd yn swyddog cymunedol gyda’r heddlu, mewn gwrthdrawiad â char yn Ilfracombe ym mis Gorffennaf tra ei fod ar ei wyliau gyda’i deulu.
Cymerodd dau o’i blant ran yn y ras i blant ddydd Sadwrn.
Un arall sy’n cystadlu yw cyn-gricedwr Morgannwg a Rheolwr Gweithredol presennol y clwb, Dan Cherry, sy’n codi arian at Gronfa Les Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).
Cewch ragor o fanylion am y digwyddiad yma.