Mae’r rhedwr Olympaidd Mo Farah ymhlith miloedd o bobol sy’n cystadlu yn y Great North Run yn Newcastle ddydd Sul.

Bydd Farah yn ceisio amddiffyn ei deitl yn sgil ei fuddugoliaeth yn y ras hanner marathon y llynedd.

Bydd 57,000 yn rhedeg y ras sy’n dechrau yn Newcastle cyn mynd ymlaen i Gateshead a South Shields.

Ymhlith yr enwogion eraill sy’n cymryd rhan yn y ras mae’r Athro Brian Cox, y rhwyfwr Olympaidd James Cracknell, y gyflwynwraig deledu Steph McGovern a’r cyn bêl-droediwr Kevin Kilbane.

Erbyn i’r ras ddod i ben y llynedd, roedd miliwn o bobol wedi croesi’r llinell derfyn yn hanes y Great North Run.

Mae disgwyl i hyd at £25 miliwn gael ei godi at achosion da eleni.