Fe fydd y Gweilch yn talu teyrnged i’w cyn-flaenasgellwr Jerry Collins cyn eu gêm gartref gyntaf yn y PRO12 yn Stadiwm Liberty ddydd Sul.

Bu farw ‘JC’ a’i wraig Alana mewn gwrthdrawiad yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Goroesodd eu merch fach dri mis oed, Ayla ac mae hi yng ngofal teulu Alana yng Nghanada.

Dyma’r tro cyntaf y mae’r Gweilch wedi chwarae yn Stadiwm Liberty ers y ddamwain.

Fel rhan o’r deyrnged iddo, fe fydd y Gweilch yn rhoi’r crys rhif 6 o’r neilltu am y dydd, ac fe fydd capteniaid y ddau dîm yn gosod blodau wrth ymyl y cae cyn munud o dawelwch.

Bydd casgliad ar y diwrnod i godi arian at Gronfa Goffa Jerry Collins i gefnogi ei ferch.

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr y Gweilch, Andrew Hore: “Aeth tri mis heibio ers y digwyddiadau trist yn ne Ffrainc ond mae JC, Alana ac Ayla yn parhau ym meddyliau pawb yn y Gweilch a’r gymuned rygbi ryngwladol.

“Ddydd Sul yw’r cyfle cyntaf sydd gyda ni fel clwb rygbi i gofio amdanyn nhw ac i ddathlu eu bywydau gyda’n cefnogwyr.

“Dros yr haf, fe ddaeth yn eglur faint o feddwl oedd gan gymaint o bobol o JC ac roedden ni am adlewyrchu hynny yn ein teyrngedau, fydd yn cael eu talu yn ffordd y Gweilch; yn dawel, yn ddiffuant ac yn onest.

“Gobeithio y gwelwn ni gefnogwyr yn ymuno â ni i dalu eu teyrngedau eu hunain yn y Liberty ddydd Sul, 13 Medi.”