Mae rhedwr oedd yn cymryd rhan yn y Great North Run ddydd Sul wedi marw.
Mae trefnwyr y ras wedi mynegi eu cydymdeimlad â’r teulu, ond dydyn nhw ddim wedi cadarnhau pwy yw’r unigolyn fu farw.
Dywedodd llefarydd: “Pan fydd marwolaeth, mae camau yn eu lle y mae’n rhaid i ni gadw atyn nhw…
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y teulu’n cael gwybod a dydyn ni ddim yn gallu gwneud sylw pellach heddiw.
“Byddwn yn rhoi diweddariad i’r cyfryngau cyn gynted ag y byddwn ni’n gallu gwneud hynny.”