Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth wedi i ddyn 25 oed fynd ar goll o’i gartref ym Merthyr Tudful.
Dydy Michael Lee Williams o’r Gurnos ddim wedi cael ei weld ers prynhawn dydd Iau.
Ar y pryd, roedd yn gwisgo jeans glas, crys rygbi du’r Gweilch ac esgidiau Adidas.
Dylai unrhyw un sydd wedi’i weld ffonio’r heddlu ar 101.