Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor Llafur, David Miliband wedi beirniadu polisi Llywodraeth Prydain ynghylch derbyn 20,000 o ffoaduriaid dros gyfnod o bedair blynedd a hanner.

Ar drothwy uwch-gynhadledd yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd Miliband fod yr ymrwymiad i dderbyn 4,000 o ffoaduriaid y flwyddyn o Syria’n cyfateb i’r nifer sy’n cyrraedd traethau ynys Lesbos bob dydd.

Galwodd Miliband ar Cameron i sicrhau bod Prydain yn derbyn yr un nifer o ffoaduriaid â nifer o wledydd eraill Ewrop.

Fe fydd yr uwchgynhadledd ym Mrwsel ddydd Llun yn gyfle i 28 o weinidogion Ewrop, gan gynnwys Theresa May, drafod y sefyllfa.

Ond fe fydd Ysgrifennydd Cartref Prydain yn gwrthod y cynllun cwota, tra bod yr Almaen yn dweud na fyddan nhw’n rhoi’r hawl i ffoaduriaid ddewis i ble maen nhw’n mynd.

Dywedodd David Miliband, sy’n bennaeth ar y Pwyllgor Achub Rhyngwladol: “Yfory mae gan yr Undeb Ewropeaidd gyfle i symud y tu hwnt i’w ymateb pytiog a diffygiol hyd yma, a chydnabod o’r diwedd ddifrifoldeb yr argyfwng dyngarol yma.

“Mae Ewrop yn wynebu ei hargyfwng ffoaduriaid mwyaf ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

“Mae angen i bob gwlad ysgwyddo’r faich a chytuno i ail-gartrefi ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd y cyfandir ac ail-gartrefi’r mwyaf diniwed o’r Dwyrain Canol.

“Mae’r cynnig terfynol o 20,000 yr un fath â’r nifer o ffoaduriaid a gyrhaeddodd Munich y penwythnos diwethaf.”