Dydy arweinydd newydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ddim am i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd na NATO, ym marn yr Aelod Seneddol Llafur, Diane Abbott.

Ond dywed Abbott y bydd Corbyn yn parhau i wrthwynebu adnewyddu Trident.

Daw ei sylwadau wedi i’r dirprwy arweinydd newydd, Tom Watson gyfaddef fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng ei werthoedd ef a Corbyn.

Enillodd Corbyn 59.5% o’r bleidlais i ddod yn arweinydd ddydd Sadwrn, ac fe arweiniodd hynny at nifer o ymddiswyddiadau a datganiadau bod aelodau blaenllaw o’r blaid yn dychwelyd i’r meinciau cefn.

Eisoes, mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi rhybuddio bod y Blaid Lafur o dan Corbyn yn “fygythiad i’n diogelwch cenedlaethol, i’n diogelwch economaidd ac i ddiogelwch eich teulu”.

Ar raglen Andrew Marr y BBC y bore ma, galwodd Tom Watson ar ei gydweithwyr i barchu “mandad anferth” Jeremy Corbyn.

Dywedodd Diane Abbott wrth y rhaglen World This Weekend ar BBC Radio 4: “Rwy’n credu y dylen nhw roi’r gorau i ddarllen y papurau am yr hyn y mae Jeremy yn ei feddwl, a gofyn i Jeremy beth mae e’n ei feddwl.

“Galla i ddweud gyda sicrwydd nad yw Jeremy yn ein tynnu ni allan o NATO a dydy e ddim yn ein tynnu ni allan o’r Undeb Ewropeaidd…”

Rhybuddiodd y gallai aelodau sy’n cytuno gyda Trident wrthdaro gyda’r arweinydd newydd.

Mae disgwyl i Jeremy Corbyn gyhoeddi’n ddiweddarach pwy fydd yn ei gabinet cysgodol cyntaf.