Mae o leiaf 10 o ffoaduriaid wedi boddi wedi i gwch suddo oddi ar arfordir ynysoedd Gwlad Groeg, ac mae pryderon y gallai’r nifer godi eto.
Cafodd 68 o bobol eu hachub, ac fe lwyddodd 30 i nofio i’r lan ar ynys Farmakonisi.
Roedd un plentyn ymhlith y rhai fu farw.
Daw’r trychineb yn dilyn cyhoeddiad gan lywodraeth yr Almaen na fyddai ffoaduriaid yn cael dewis i ble maen nhw’n mynd fel rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd i gyflwyno cwota.
Roedd mwy na 700 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Munich fore Sul.
Dywed yr awdurdodau yn y ddinas bod eu hadnoddau’n cael eu hymestyn i’r eithaf.
Mae Dirprwy Ganghellor yr Almaen, Sigmar Gabriel wedi dweud y dylai’r Almaen ac Ewrop gynnig 1.5 biliwn Ewro er mwyn darparu bwyd, lloches ac ysgolion i ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn Libanus a Gwlad yr Iorddonen.
Mae paratoadau ar y gweill i gwtogi ar nifer y ffoaduriaid sy’n croesi’r ffin i mewn i’r wlad.
Cafodd 4,330 o ffoaduriaid eu cadw yn y ddalfa ddydd Sadwrn.
Yn y cyfamser, dywed heddlu Awstria eu bod nhw wedi achub 42 o bobol, gan gynnwys menywod a phlant, o lori ag oergell oddi ar ffordd ger y ffin gyda’r Almaen.
Roedd y ffoaduriaid y tu mewn i lori flodau oedd wedi’i chofrestru yn y Ffindir.
Cafodd dau ddyn o Irac eu harestio.
Fis diwethaf, cafwyd hyd i 71 o bobol wedi marw mewn lori yn nwyrain Awstria.