Mae Rhodfa’r Gorllewin yng Nghaerdydd wedi’i chau’n rhannol yn dilyn gwrthdrawiad difrifol sydd wedi achosi i saith o bobol, gan gynnwys dau blentyn, gael eu torri’n rhydd o’u ceir.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal y prynhawn yma.

Cafodd pump o oedolion a dau o blant eu torri’n rhydd o dri char oedd wedi taro yn erbyn ei gilydd.

Mae’r ffordd wedi’i chau ar ochr orllewinol ysgol y Gadeirlan yn Llandaf, ac mae rhybudd i deithwyr am oedi hir drwy gydol y prynhawn.

Mae adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi rhybuddio pobol i feddwl yn ofalus cyn mynd yno y prynhawn yma gan fod y staff yn brysur yn trin y rhai fu yn y gwrthdrawiad.