Fe fu’n rhaid i syrffwyr achub dwy ferch 14 oed oddi ar arfordir Porth Neigwl ger Abersoch brynhawn Sadwrn.

Aeth y merched i drafferthion am oddeutu 2.50 ac roedden nhw’n methu nofio i’r lan.

Cafodd gwylwyr y glannau a hofrennydd eu galw i gynnig cymorth i’r merched a’u cludo i ddiogelwch.