Mae mwy na 15,000 o bobol wedi ymaelodi â’r Blaid Lafur ers i Jeremy Corbyn ddod yn arweinydd fore ddoe.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y blaid, Iain McNicol fod gan y blaid 325,000 o aelodau erbyn hyn, a bod y ffigwr yn parhau i gynyddu.

Fe groesawodd McNicol yr aelodau newydd ar wefan Twitter.

Mae’r dirprwy arweinydd newydd, Tom Watson wedi datgan ei obaith y bydd yr aelodau a dalodd £3 er mwyn cael pleidleisio yn yr etholiad ar gyfer yr arweinydd newydd yn dod yn aelodau llawn o’r blaid.

Dywedodd Watson wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Gobeithio y byddan nhw’n gallu dod gyda ni ar y daith i’r etholiad yn 2020.

“Gadewch i’r aelodau newydd hyn gymryd rhan yn yr ymgyrchu, gan helpu i ail-osod y gwreiddiau mewn cymunedau, cymryd rhan mewn chwyldro digidol yn y blaid sy’n galluogi aelodau i deimlo fel pe baen nhw’n chwarae rhan fwy o faint yn y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud.”

Roedd nifer aelodau’r blaid wedi cynyddu’n sylweddol adeg ethol Ed Miliband yn arweinydd yn 2010, ond fe gwympodd y niferoedd unwaith eto’n ddiweddarach.