Mae disgwyl y bydd miloedd yn gorymdeithio yn Llundain heddiw i brotestio yn erbyn y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ymdrin â’r argyfwng ffoaduriaid.

Yn eu plith fe fydd ymgyrchwyr hawliau sifil, gwleidyddion blaenllaw a cherddorion, gyda nifer o ffoaduriaid yn arwain yr orymdaith at Parliament Square.

Mae disgwyl y bydd y cerddor Billy Bragg, yr ymgyrchwyr hawliau sifil Shami Chakabrati a Bianca Jagger, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Tim Farron ac arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett yn annerch y protestwyr.

Meddai Kate Allen, cyfarwyddwr Amnesti Rhyngwladol, un o’r mudiadau sy’n trefnu’r brotest:

“Mae hon yn adeg allweddol i godi’n lleisiau’n uchel a chlir cyn y cyfarfod o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddydd Llun.

“Fe ddylen ni gofio’r adegau balch yn hanes Prydain pan wnaethon ni agor ein drysau i bobl pan oeddent mewn mwyaf o angen, a ddylen ni ddim bod yn troi ein cefnau’n awr ar y rheini sydd wedi cael eu dal yn yr argyfwng ffoaduriaid gwaethaf ers yr Ail Ryfel Byd.”