Dinas Mecca yn Saudi Arabia (o wefan Wikipedia)
Mae o leiaf 107 o bobl wedi marw ar ôl i graen ddisgyn ar ben y Grand Mosque yn Mecca, safle mwyaf sanctaidd Islam.

Er nad yw’r bererindod fawr flynyddol wedi cychwyn eto, mae’r mosg yn denu Mwslimiaid o bob rhan o’r byd drwy’r flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ran ran llywodraeth Sawdi Arabia i’r ddamwain ddigwydd yn hwyr brynhawn ddoe.