y pedwar yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur
Mae’r Blaid Lafur ar fin cyhoeddi pwy fydd ei harweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yn Llundain yn hwyrach y bore yma.

Mae Tom Watson eisoes wedi ennill y ras i fod yn Ddirprwy Arweinydd.

Ar ôl wythnosau o ymgyrchu dros yr haf, mae’n amlwg bellach mai Jeremy Corbyn yw’r ffefryn clir o blith y pedwar ymgeisydd am yr arweinyddiaeth.

Y sibrydion diweddaraf yw y gall ennill ar y bleidlais gyntaf, fel na fydd angen cyfrif ail ddewisiadau’r ymgeiswyr eraill.

Yr ymgeiswyr eraill yw’r ddau gyn-weinidog Andy Burnham ac Yvette Cooper. Yr farn gyffredinol yw mai’r ymgeisydd lleiaf poblogaidd fydd Liz Kendall, a oedd yn gyson wedi bod yn fwy parod na neb o’r lleill i achub cam y cyn-brif weinidog dadleuol Tony Blair.

Mae dros 550,000 o bobl wedi cael cyfle i gymryd rhan yn y bleidlais, a’r rhain yn cynnwys aelodau’r blaid Lafur, undebwyr llafur, a phobl a oedd wedi cael cofrestru fel cefnogwyr am £3.

Yr amcangyfrif yw bod tua 113,000 o’r pleidleiswyr newydd hyn.

Yn ôl adroddiadau answyddogol, mae tua 76% o’r rhai a oedd â hawl i bleidleisio wedi gwneud hynny, gyda’r mwyafrif llethol o’r pleidleiswyr newydd wedi cefnogi Jeremy Corbyn.

 Yn y cyfamser, mae Sadiq Khan wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd Llafur i fod yn Faer Llundain yn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Y gred yw fod ei fuddugoliaeth i’w phriodoli’n rhannol i filoedd o aelodau newydd sydd wdi cael eu denu gan Jeremy Corbyn, ac y gallai fod yn arwydd o’r hyn sydd i ddod heddiw.

Fe fydd enw dirprwy arweinydd newydd Llafur hefyd yn cael ei gyhoeddi yn y gynhadledd, a’r ffefryn y ras yw Tom Watson sy’n ymladd yn erbyn Ben Bradshaw, Stella Creasy, Angela Eagle a Caroline Flint.