Ni fydd llety myfyrwyr ‘Fferm Penglais’ ym Mhrifysgol Aberystwyth – sydd werth £45 miliwn – yn barod tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.

700 o ystafelloedd fydd ar gael eleni yn hytrach na’r 1,000 a gafodd eu haddo.

Yn ôl y brifysgol, bydd gweddill yr ystafelloedd, sef 300 ohonyn nhw yn barod i’r myfyrwyr fis Medi nesaf, dwy flynedd ar ôl y dyddiad agor gwreiddiol.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn groes i addewidion y Brifysgol a chontractwyr y datblygiad y byddai’r llety yn barod mewn “da bryd” ar gyfer dechrau’r tymor newydd hwn.

‘Dim syndod’ – meddai’r myfyrwyr

“Dydy hynna ddim yn fy synnu. Dylai bod camau wedi eu cymryd i sicrhau nad oedd yr oedi pellach yma heb ddigwydd. Unwaith eto, mae myfyrwyr wedi cael ei gadael lawr gan y Brifysgol a dylai hynny ddim digwydd,” meddai Miriam Williams, cyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

“Mae’r ystafelloedd a’r safle yn edrych yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr i’w llety newydd. Bydd y 300 o ystafelloedd sydd ar ôl yn cael eu gorffen yn ystod y flwyddyn academaidd ac rydym yn disgwyl i gael y safle yn barod ar gyfer mis Medi 2016,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth.

Llety’r myfyrwyr Cymraeg

Cartref newydd i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol oedd un o bwrpasau Fferm Penglais i ddechrau ar ôl i’r Brifysgol  gyhoeddi y bydd Neuadd Pantycelyn yn cau.

Er hyn, cafwyd protestiadau gan y myfyrwyr a phenderfynwyd ail-agor y Neuadd ymhen pedair blynedd ar ôl gwneud gwaith atgyweirio yno.

Mae nifer o bobl wedi cwestiynu addewid y Brifysgol i ail-agor y Neuadd, gan nodi nad oes ffydd yn y brifysgol mwyach.

Yn y cyfamser, bydd myfyrwyr Cymraeg ei hiaith y Brifysgol yn cael eu lleoli yn Llety Penbryn, llety arlwyo yng nghanol campws y Brifysgol.