Mae criw o bedoffiliaid fu’n treisio babis a phlant ifanc ac yn dangos y cam-drin ar y We wedi eu carcharu.

Fe gafodd y saith o ddynion rhwng 31 a 51 oed eu canfod yn euog o 29 o droseddau rhywiol yn erbyn plant.

Mae’r Barnwr Julian Lambert wedi carcharu’r dynion am gyfnodau rhwng dwy a 24 o flynyddoedd.

“Mae’r hyn wnaethoch chi ei ystyried a’r hyn wnaethoch chi yn ymwneud â cham-drin babi a phlant ifanc iawn yn ofnadwy,” meddai’r Barnwr Lambert yn Llys y Goron Bryste.

Roedd y drwgweithredwyr yn hanu o Wiltshire, Hampshire, Somerset, Manceinion, Bedfordshire, Sussex a Swydd Efrog.

Dengys cofnodion cyfrifiadurol bod y criw yn cynnig cyngor ar sut i ddefnyddio cyffuriau ‘date rape’ i dawelu’r dioddefwyr.

Bu’r criw yn defnyddio Skype a thechnoleg fideo gynadledda i drefnu a gwylio’r ymosodiadau.

Mae disgwyl y bydd mwy o bedoffiliaid yn cael eu herlyn a’u canfod yn euog o droseddau yn sgîl ymchwiliad gafodd ei lansio fis Medi’r llynedd wedi i Adam Toms, 33 o Somerset gyfaddef wrth yr heddlu ei fod yn rhan o’r criw.