Gall yr angen i fod ar gael ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol 24 awr y dydd achosi iselder, gor-bryder (anxiety) a niweidio ansawdd cwsg pobl ifanc.

Dyna mae ymchwilwyr Prifysgol Glasgow wedi ei ganfod wrth holi 467 o bobl ifanc yn eu harddegau am eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn ystod y nos.

Gwnaethon nhw brofion pellach oedd yn mesur ansawdd cwsg, hunan-barch, gor-bryder ac iselder a buddsoddiad emosiynol yn y cyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r pwysau i fod ar gael 24 awr y dydd.

Mae’r astudiaeth yn dangos bod pobl ifanc yn teimlo pwysau cynyddol i ymateb i negeseuon yn syth ar wefannau fel Facebook a Twitter.

‘Rhaid meddwl am sut mae ein plant yn defnyddio’r We’

“Gall llencyndod fod yn gyfnod sy’n agored i deimladau o iselder a gor-bryder ac mae ansawdd cwsg gwael yn cyfrannu at hyn,” meddai Dr Cleland Woods a oedd wedi arwain yr ymchwil.

“Mae’n bwysig ein bod yn deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig â rhain. Mae tystiolaeth yn dangos cyswllt rhwng y cyfryngau cymdeithasol a lles, yn enwedig ymhlith pobl yn eu harddegau ond mae beth sy’n achos hyn yn aneglur.”

Roedd yr astudiaeth yn dangos bod defnyddio gwefannau cymdeithasol yn ystod y nos yn arwain at ddiffyg cwsg, hunan-barch is a lefelau uwch o or-bryder ac iselder.

“Gall y rhai sy’n logio i mewn (i’r gwefannau) yn y nos gael eu heffeithio fwy. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni ddechrau meddwl am y ffordd mae ein plant yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai Dr Cleland Woods.

Rhaid hefyd meddwl am hyn mewn perthynas i ddiffodd y teclynnau hefyd, yn ôl arweinydd yr ymchwil.

Bydd yr astudiaeth hon yn cael ei chyflwyno yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig ym Manceinion heddiw.