Mae cynghorau ledled Cymru bellach wedi datgan eu cefnogaeth i helpu’r ffoaduriaid sydd wedi ffoi o Syria.

Fe fydd rhwydwaith yn cael ei greu sy’n cynnwys holl gynghorau sir Cymru er mwyn cynnig cymorth dyngarol i’r miloedd sy’n aros mewn gwersylloedd dros dro yn Ewrop ac mewn gwledydd sydd ar y ffin â Syria.

Cyngor Ceredigion yn barod i roi

Mewn cyfarfod nos Fercher, cytunodd aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i weithio gyda chefnogaeth cynghorau eraill yng Nghymru er mwyn cefnogi ffoaduriaid o Syria.

Bydd y cyngor yn sefydlu ‘Grŵp Gorchwyl a Gorffen’ a fydd yn cynnwys partneriaid perthnasol o fewn y trydydd sector, Cymdeithasau Tai ac unrhyw wirfoddolwyr eraill er mwyn ‘hyrwyddo materion’.

Mae tua 15 man casglu wedi eu sefydlu dros y sir gan drigolion Ceredigion i gasglu rhoddion. Mae’r cyngor hefyd wedi cytuno i ddefnyddio hen depo Teiars Huw Lewis yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth fel safle dros dro i storio rhoddion sydd wedi eu casglu yn y sir.

Galw am yr arian i ddod drwy ‘drethiant cyffredin’

“Mae Cyngor Sir Ceredigion yn pryderu am drallod y ffoaduriaid a’r trasiedi sydd yn effeithio ar gymaint o bobl, ac wedi cytuno i gynnig cefnogaeth ble bynnag y gallant,” meddai Arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn.

“Bydd angen i ni nawr drafod gyda’r llywodraeth ganolog ynglŷn â’r costau sy’n gysylltiedig â’r broblem ryngwladol yma, gan amlygu’r angen i’r rhain gael eu hariannu trwy drethiant cyffredin, ac nid trwy gyllidebau awdurdodau lleol.”

Cyngor Sir Gâr i gynnig lloches

Yng Nghaerfyrddin ddoe, fe wnaeth gynghorwyr bleidleisio’n unfrydol i groesawu ffoaduriaid o Syria i’r sir.

“Mae hyn yn argyfwng dyngarol, mae gofyn dynol ac egwyddorol arnom i gefnogi’r ffoaduriaid mewn modd croesawgar a chadarnhaol,” meddai Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole.

Fe ddywedodd wedyn fod y Prif Weithredwr, Mark James, ynghyd ag uwch swyddogion eraill eisoes yn y broses o asesu sut yn union y gall y sir gyfrannu at leddfu argyfwng y ffoaduriaid.

Galwodd ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymateb i’r argyfwng ar unwaith, a “datgan y byddwn yn chwarae ein rôl yn croesawu (y ffoaduriaid) gyda breichiau agored,”

Mynd â’r alwad i’r Prif Weinidog             

Mae Mark James wedi rhoi barn y cyngor i brif swyddog Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fydd yn cyfarfod â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn hysbysu’r gymdeithas o’i safle presennol.

Erbyn hyn mae tua 6.5 miliwn o bobl o Syria wedi ffoi o’r wlad lle mae rhyfel cartref, ac ar ôl pwysau cynyddol mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cytuno i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid i’r wlad dros gyfnod o bedair blynedd.