Mae bron i 9 o bob 10 newyddiadurwr yn mwynhau eu swyddi, yn ôl holiadur gan y Press Gazette a fu’n cwestiynu 715 o weithwyr y maes.

Tua 64,000 o bobl sy’n gweithio ym maes newyddiadura ar Ynysoedd Prydain, ac mae’r sampl yn tua 1% o’r rheiny.

O’r 715 a atebodd y cwestiwn ‘Ydych chi’n mwynhau eich swydd?’, roedd 611 o bobl, bron i 88% wedi ateb ‘ydw’. 86 o bobl a atebodd ‘nac ydw’.

Roedd 43% o bobl wedi rhoi saith neu wyth allan o ddeg i’w gweithle, roedd 9% wedi rhoi deg allan o ddeg ac roedd 3.5% wedi rhoi un allan o ddeg.

Press Gazette?

Mae’r holiadur hwn yn rhan o nodi 50 o flynyddoedd ers sefydlu’r Press Gazette fel cylchgrawn wythnosol sy’n edrych ar faes newyddiadura.

Bydd y cylchgrawn yn cyhoeddi rhagor o ganlyniadau’r arolwg dros yr wythnosau nesaf.