Heddlu Gwrth-frawychiaeth
Mae nifer y bobl sy’n cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychu yn y DU ar ei lefel uchaf erioed wrth i’r heddlu geisio mynd i’r afael â bygythiadau posibl y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae ffigurau’r Swyddfa Gartref yn dangos bod 299 o bobl wedi cael eu cadw yn y ddalfa llynedd am droseddau’n ymwneud a brawychiaeth – cynnydd o 31% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dyma’r rhif uchaf erioed ers i swyddogion ddechrau casglu data ym mis Medi 2001. Yn 2005, blwyddyn y bomio yn Llundain ar 7 Gorffennaf oedd y lefel uchaf diwethaf, sef 284.
Mae swyddogion yn dweud bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n cael eu harestio sy’n ystyried eu hunain yn Brydeinig neu â chenedligrwydd deuol Prydeinig.
Roedd y ffigurau hefyd yn dangos bod nifer y bobl rhwng 18 a 20 oed sydd wedi cael eu harestio wedi mwy na dyblu yn 2014/15 ers llynedd o 20 i 43.
Yn ôl y Swyddfa Gartref, bu cwymp yn nifer yr arestiadau ar ôl y bomio yn 2005 tan ddiwedd 2010, pan ddechreuodd y Gwanwyn Arabaidd.
Mae bron i 3,000 o bobl wedi cael eu harestio yn y DU ers trychineb 9/11, 14 mlynedd yn ôl.
Fe ddatgelodd Mark Rowley, prif swyddog gwrth-frawychiaeth y DU, bod y nifer sydd dan amheuaeth bellach wedi codi i raddfa o fwy nag un person y dydd.
Dywedodd Gweinidog Diogelwch Llywodraeth Prydain, John Hayes bod y llywodraeth yn benderfynol o ‘chwalu’ unrhyw fygythiadau brawychol i’r DU.
“Mae’n hanfodol bod ganddyn nhw (yr heddlu, y Gwasanaeth Diogelwch a Gwasanaeth Erlyn y Goron) y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i ddiogelu’r cyhoedd,” meddai.