Craig Greve
Yn Llys y Goron Caerdydd mae dyn wedi cael ei garcharu am bum mlynedd a hanner ar ôl i’w gi ymosod ar ei nain gan ei lladd.

Bu farw Rhona Greve, 64 oed, ar ôl cael ei brathu 16 gwaith gan gi tarw Americanaidd – American bulldog – o’r enw Solo.

Cafodd anafiadau difrifol i’w gwddf a’i hwyneb yn yr ymosodiad ar 20 Mawrth.

Roedd ganddi broblemau gyda’i chalon a bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Clywodd y llys y gallai hi fod wedi goroesi petai’r ambiwlans heb gymryd 98 munud i gyrraedd ei chartref yn Nhrelái, Caerdydd.

Clywodd y llys bod Craig Greve, 23, a oedd wedi cael ei ryddhau o’r carchar y llynedd, eisoes wedi cael ei wahardd rhag cadw cŵn ar ôl i’w gi ymosod ar anifail arall.

‘Allan o reolaeth’

Roedd Greve wedi  pledio’n euog i un cyhuddiad  o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus, sef bod yn berchennog ar gi peryglus a oedd allan o reolaeth ac a oedd wedi anafu Rhona Greve gan arwain at ei marwolaeth.

Clywodd y llys bod yr ymosodiad wedi digwydd ar ôl i Greve ddychwelyd i dy ei nain ar ôl noson allan. Pan gurodd ar y drws, gan nad oedd ganddo allwedd, fe aeth y ci allan o reolaeth.

Ar ôl iddo weld y ci yn ymosod ar ei nain fe dorrodd ffenestr i fynd i mewn i’r tŷ gan weiddi ar yr anifail.

Ond yn ôl yr erlyniad, roedd Greve yn “gyndyn” i ffonio 999 er gwaetha ple gan ei nain am ei ffon. Dywedodd yr erlyniad mae cymydog oedd wedi ffonio’r gwasanaethau brys ac nid y diffynnydd.

Dywedodd hefyd bod Grieve wedi cael ei garcharu am ymosod ar ei nain cyn hynny.

‘Ambiwlans yn hwyr yn cyrraedd’

Ond dywedodd John Charles Rees QC ar ran yr amddiffyniad bod Rhona Greve yn caru ei ŵyr a’i bod hefyd yn hoff o Solo.

Esboniodd nad oedd Greve wedi ffonio’r heddlu am ei fod mewn sioc. Ychwanegodd nad oedd yr ambiwlans wedi cyrraedd am 98 munud ers cael eu ffonio y tro cyntaf ac erbyn hynny roedd Rhona Greve wedi cael trawiad ar y galon.

“Nid oedd yr anafiadau eu hunain yn ddigon i achosi marwolaeth Rhona Greve, ond fe wnaethon nhw arwain at drawiad ar y galon a oedd yn angheuol,” meddai.

“Mae ’na bosibilrwydd realistig na fyddai Rhona Greve wedi marw petai’r ambiwlans wedi cyrraedd pan ddylai fod.”

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees ei bod wedi cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Greve wedi pledio’n euog a’i fod wedi dangos “edifeirwch”.

Serch hynny, meddai, roedd y diffynnydd wedi bod yn fwy pryderus amdano’i hun na’i nain ar y dechrau.

Clywodd y llys bod Solo wedi cael ei ddifa.