Cyngor Sir Penfro
Mewn cyfarfod i drafod ymgynghoriad newydd i gynlluniau i leoli ysgol Gymraeg newydd yn Sir Benfro, mae Cynghorydd wedi disgrifio’r sefyllfa fel “chwalfa wirioneddol.”

Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio ymgynghoriad newydd i’r cynlluniau i uno dwy ysgol uwchradd yn Hwlffordd, sef Ysgol Syr Thomas Picton ac Ysgol Tasker Milward, a chreu ysgol Gymraeg fawr newydd yn Sir Benfro.

Mae ansicrwydd ynglŷn â’r cynlluniau am fod y cyngor wedi methu a dod i gytundeb gyda pherchnogion y safle,  Ymddiriedolaeth Tasker Milward.

O ganlyniad mae Cyngor Sir Penfro wedi gorfod ailystyried lleoliad newydd i’r ysgol.

‘Gwrando ar farn y cyhoedd’

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Nutting ar ran Grŵp Cynghrair Penfro: “Dylen ni fod wedi cael trafodaeth go iawn. Mae Ymddiriedolaeth Tasker Millward yn gwbl glir fe ddylen ni fod wedi trafod gyda nhw – ry’n ni wedi gorfodi pethau drwodd.”

Mae Jonathan Nutting yn credu y dylai’r Cyngor fod wedi gwrando ar farn y cyhoedd: “Fe ddyle’r Cyngor fod wedi gwrando ar y farn gyhoeddus. Mae’n rhaid inni edrych ar hyn a gweld sut fedrwn ni ei ddatrys. Mae’n gywilydd.”“

‘Pam ymgynghoriad arall?’

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd wedi codi cwestiynau am bwrpas ymgynghoriad arall gan Gyngor Sir Benfro.

Dywedodd Kevin Knox, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Roedd yr ymgynghoriad yn gynharach eleni yn dangos fod 96% o’r rhai ymatebodd yn fodlon bod ysgol Gymraeg yn dod i Hwlffordd felly pam bod angen ymgynghoriad arall eto?”

“Mae pobl wedi bod yn aros ers blynyddoedd os nad degawdau am Ysgol Uwchradd Gymraeg yn Ne’r sir,” meddai Kevin Knox, ac  o’r diwedd roedd addewid y byddai ysgol erbyn 2019 ond nawr mae ansicrwydd ac oedi. Dydy pobl ddim am drafod, ymgynghori a llenwi ffurflenni eto – maen nhw am gael ysgol y gallan nhw anfon eu plant iddi!”

‘Colli mas ar addysg Gymraeg’

Ychwanegodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Does dim safle pendant ar gyfer ysgol Gymraeg yn Hwlffordd erbyn hyn a byddai hi’n llawer gwell i’r cyngor dreulio amser ar gael safle i ysgol Gymraeg yn lle ymgynghori eto. Roedd yr ymateb i’r ymgynghoriad diwetha’ ymysg yr uchaf i’r cyngor ei gael ond dyma nhw nawr yn gofyn i bawb ymateb eto.

“Nid yn unig hynny ond mae’r ymgynghoriad i ad-drefnu wedi ei rannu’n dair rhan. Bydd dau neu’r tri ymgynghoriad yn berthnasol i rai pobl felly byddan nhw’n gorfod ymateb i bob un ar wahân.”

Yn ôl Bethan Williams, “Mae gormod o blant y sir wedi colli mas ar addysg Gymraeg neu wedi gorfod teithio’n bell er mwyn cael addysg Gymraeg fel mae.”