Maes Awyr Caerdydd
Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru wrth i adroddiadau ddod i’r amlwg y gall benthyciadau gwerth miliynau o bunnoedd i Faes Awyr Caerdydd dorri rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd.

Yn ôl llythyr gan swyddog yn Adran Drafnidiaeth Llywodraeth San Steffan, nid yw’r “cytundeb yn cyd-fynd â rheolau’r Comisiwn Ewropeaidd.”

Cafodd y maes awyr benthyciad o £10 miliwn i wella’r safle a £13 miliwn arall i ddatblygu rhagor o lwybrau hedfan.

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Flybe, cwmni hedfan sy’n gweithredu o Faes Awyr Caerdydd ei bod am hedfan i ddeg lleoliad newydd.

Mae’r cwmni yn honni y bydd y llwybrau newydd hyn yn denu tua hanner miliwn o deithwyr ychwanegol rhwng y 12 a 18 mis nesaf, er cafodd y ffigwr hwn ei herio gan gyngor annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd rhaid talu’r holl arian yn ôl o fewn y degawd nesaf ond mae pryderon y gall strwythuro ad-daliadau Flybe o incwm cyffredinol y maes awyr gael ei weld fel cymhorthdal uniongyrchol.

‘Gwylltio busnesau yng Nghymru’ yn ôl y Torïaid

 

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, bydd yr awgrym y gallai’r Llywodraeth fod wedi torri’r rheolau yn gwylltio busnesau yng Nghymru.

“Mae cannoedd o fusnesau yng Nghymru sy’n ceisio am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn gyson yn cael gwybod na allen nhw gael yr arian hwnnw oherwydd nad ydyn nhw’n cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol,” meddai Andrew R T Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi sicrwydd nad ydynt wedi torri rheolau’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cyhoeddi unrhyw waith papur perthnasol.”

‘Ddim yn anghyffredin’ – ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel Llywodraeth sy’n gefnogol i fusnesau, dyw’r cytuno ar fenthyciadau masnachol gyda busnesau ddim yn anghyffredin o arfer Llywodraeth Cymru.

“Dyw Maes Awyr Caerdydd ddim yn cael ei drin yn wahanol i unrhyw sefydliad masnachol arall.”