Mae enwau 26 o Aelodau Seneddol a chyn-ASau wedi cael eu cyhoeddi gan Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) am fethu talu dyledion a gafodd eu dileu am dreuliau hyd at £500.

Mae Ipsa o ganlyniad wedi dileu’r ddyled ond wedi bwrw ymlaen i ddatgelu enwau’r gwleidyddion sydd heb dalu.

Ymhlith yr enwau ar y rhestr mae’r gweinidogion presennol Tobias Ellwood ac Edward Timpson ac Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe Sian James a fu’n AS tan fis Mai 2015. Roedd gan Sian James ddyled heb ei thalu o £193 am dreuliau.

Cafodd dros £2,105.43 o ddyledion eu dileu’r llynedd, gan Ipsa a oedd yn dadlau eu bod wedi cysylltu sawl gwaith yn gofyn am yr arian.

Cafodd manylion treuliau a chostau swyddfa’r ASau am 2014-15 hefyd eu cyhoeddi, gyda gwariant yn cynyddu 1.6% i bron i £106 miliwn.

Mae David Cameron wedi gorchymyn bod tri o’r gweinidogion – Tobias Ellwood, Edward Timpson a Caroline Dinenage – yn ad-dalu’r dyledion.