Chris Grayling
Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin wedi mynnu nad oes tystiolaeth i ddangos bod llywodraethau datganoledig yn colli arian o’u cyllideb os yw gwariant yn cael ei dorri yn Lloegr.

Dywedodd Chris Grayling wrth un o bwyllgorau San Steffan fod angen bwrw ymlaen â Phleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig (EVEL), cynllun sydd wedi codi gwrychyn nifer o ASau.

O dan y ddeddf newydd fe fyddai ASau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu gwahardd rhag pleidleisio ar rai materion os ydyn nhw’n ymwneud â deddfwriaeth i Loegr yn unig.

Ond mae nifer o wleidyddion o’r gwledydd datganoledig wedi gwrthwynebu’r cynlluniau, gan ddweud bod materion sydd yn ymwneud â ‘Lloegr yn unig’ weithiau’n gallu effeithio ar gyllid y llywodraethau rhanbarthol, oherwydd y ffordd mae fformiwla Barnett yn rhannu arian.

‘Rhith’

Mynnodd Chris Grayling fodd bynnag nad oedd y gwledydd datganoledig yn colli arian pan oedd toriadau yn cael eu gwneud yn Lloegr, ac nad oedd ôl-ddilyniant Barnett (Barnett consequentials) yn bodoli.

Ôl-ddilyniant Barnett yw’r canlyniad y byddai disgwyl ei weld os oedd lefelau gwariant yn cael eu newid yn Lloegr, gyda chyllidebau’r gwledydd datganoledig yn cynyddu petai mwy o wariant gan San Steffan, ond yn cael eu cwtogi petai doriadau.

“Dw i ddim yn meddwl fod ôl-ddilyniant Barnett yn bodoli,” meddai Chris Grayling.

“Does neb wedi llwyddo i roi esiampl i mi o Fesur yn cael ei basio drwy Dŷ’r Cyffredin y tu allan i’r broses amcangyfrifon sydd wedi gwneud unrhyw effaith sylweddol ar safle’r gyllideb yn yr Alban.

“Felly dw i’n meddwl mai rhith yw e.”

Ychwanegodd fod yn rhaid taclo’r “drwgdeimlad cynyddol” yn Lloegr ynglŷn â’r ffaith bod ASau o wledydd eraill Prydain yn cael pleidleisio yn San Steffan ar faterion oedd eisoes wedi’u datganoli.

Newid y drefn

Mynnodd Llywodraeth Cymru fod awgrym Chris Grayling yn anghywir, fodd bynnag, gan ddweud eu bod nhw eisoes wedi gorfod delio â thoriadau a’i bod hi’n bryd newid fformiwla Barnett.

“Mae dweud nad yw Symiau Canlyniadol Barnett yn bodoli yn rhith ynddo’i hun,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fformiwla Barnett yw’r cyfrwng a ddefnyddir i benderfynu ar newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cymru.  Lle bo deddfwriaeth yn arwain at newidiadau i’r gyllideb, yn y pen draw bydd yn bwydo trwy fformiwla Barnett i Gyllideb Cymru.

“Rydym o’r farn a hynny ers tro byd nad yw Fformiwla Barnett yn gwneud unrhyw gymwynas â Chymru a dyma pam rydym wedi galw droeon am setliad ariannu tecach. Mater i Lywodraeth y DU bellach yw cyflawni hyn adeg yr Adolygiad o Wariant ym mis Tachwedd.

“Mae Cyllideb Cymru wedi caei ei thorri droeon flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2010 – gostyngiad o 8% mewn termau real.  Arian yw hwn sy’n cael ei dynnu allan o’n gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yng Nghymru ac mae’n mynd yn fwy anodd rheoli’r toriadau hyn.”