Ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur - Liz Kendall, Andy Burnham, Jeremy Corbyn, a Yvette Cooper
Mae’r pleidleisio i ddewis arweinydd newydd y Blaid Lafur yn dod i ben am hanner dydd heddiw.

Ond mae rhai aelodau’n dweud nad ydyn nhw wedi derbyn eu papurau pleidleisio yn oriau olaf y gystadleuaeth.

Mae’r blaid hefyd yn wynebu beirniadaeth am gau llinell gymorth genedlaethol ar gyfer aelodau oedd yn cael problemau pleidleisio.

Roedd Llafur wedi trefnu ar y funud olaf ddoe bod papurau pleidleisio yn cael eu hanfon ddoe i aelodau oedd wedi cysylltu â’r blaid erbyn dydd Mawrth.

‘Anhygoel’

Ond mae Michael Dugher, rheolwr ymgyrch yr ymgeisydd, Andy Burnham, wedi beirniadu’r blaid am y llanast munud olaf yn y gystadleuaeth.

Ar ei gyfrif Twitter dywedodd: “Gyda miloedd yn dal heb bleidleisio a rhai heb gael eu papurau pleidleisio, mae @UKLabour wedi cau’r llinell gymorth i helpu aelodau sy’n ceisio pleidleisio. Anhygoel.”

Fe fydd olynydd Ed Miliband, ynghyd a’r dirprwy arweinydd newydd, yn cael eu cyhoeddi mewn cynhadledd yn Llundain ddydd Sadwrn.

Jeremy Corbyn, 66, yw’r ffefryn i ennill ond fe allai system bleidleisio Llafur olygu bod Andy Burnham neu Yvette Cooper yn dod i’r brig. Os nad yw un o’r ymgeiswyr yn ennill 50% o’r pleidleisiau yn y cyfrif cyntaf, fe fydd pleidleisiau’r ail ddewis yn cael eu hystyried.

Mae’n ymddangos bod Liz Kendall wedi methu a sicrhau cefnogaeth sylweddol ac mae hi wedi cyfaddef bod ganddi her fawr os am ennill y gystadleuaeth.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi manteisio ar y rhwygiadau o fewn y blaid gan ddweud wrth y New Statesman bod polisïau Jeremy Corbyn  yn peri “risg gwirioneddol i ddiogelwch Prydain” a bod ei lwyddiant wedi llusgo Andy Burnham ac Yvette Cooper i’r chwith yn ystod y gystadleuaeth.