Morrisons
Mae cwmni Morrisons wedi cyhoeddi y bydd yn cau 11 o archfarchnadoedd gan roi 900 o swyddi yn y fantol.

Mae’n dilyn cyfnod ansicr i’w cwmni ar ôl i’w elw cyn treth ar 2 Awst ostwng 47% i £126 miliwn tra bod gwerthiant yn yr un cyfnod wedi gostwng 2.7% o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Dywedodd prif weithredwr newydd Morrisons David Potts bod y grŵp yn wynebu “taith hir”.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod yn unig ar ôl i Morrisons gyhoeddi ei fod yn gwerthu 140 o’i siopau lleol M am oddeutu £25 miliwn er mwyn canolbwyntio ar yr archfarchnadoedd mwy.