Llwyddodd Undeb Rygbi Cymru i sicrhau trosiant o £64.2m, yr uchaf yn ei hanes, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Dywedodd adroddiad blynyddol Grŵp URC fod y corff hefyd wedi gwario £22.6m ar y gêm ar bob lefel yng Nghymru, gan gynnwys rhoi £17.2m i rygbi rhanbarthol, £1.4m i’r Uwch Gynghrair a £4m i rygbi cymunedol.

Ymysg y costau gafodd eu gwario dros flwyddyn ariannol 2014/15 roedd cae Desso lled-artiffisial newydd Stadiwm y Mileniwm, gyda chyfanswm y gwariant ar y maes yn dod i £3.2m.

Mae URC hefyd yn parhau i ad-dalu benthyciad ar gyfer adeiladu’r stadiwm, ac yn ystod y flwyddyn fe ailstrwythuron nhw ddyled gwerth £10m gyda banc Barclays.

‘Safle cryf’

Yn ôl yr URC roedd costau eraill yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £4.3m ar y gêm elît yng Nghymru, £2.8m ar rygbi cymunedol, a £5.4m ar gyfer Stadiwm y Mileniwm.

Dim ond ddoe y cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw wedi dod i gytundeb â chymdeithas adeiladu Principality i noddi Stadiwm y Mileniwm a’i hailenwi’n ‘Stadiwm Principality’.

Mae’r cytundeb hwnnw yn para deng mlynedd gydag adroddiadau’n dweud ei fod werth tua £15m, neu £1.5m y flwyddyn.

“Rydw i’n hynod o falch o gyhoeddi safle ariannol mor gryf cyn i mi gamu lawr o fy rôl o fewn y grŵp,” meddai prif weithredwr URC Roger Lewis, fydd yn gadael ei swydd ar ôl Cwpan y Byd.

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi profi unwaith eto fod ein llwyddiant yn seiliedig ar gynllunio a strategaeth glir a ffocws ac ymroddiad i greu llwyddiant.

“Rydw i’n arbennig o falch bod ailstrwythuro’n taliadau benthyg yn dangos bod banc Barclays yn amlwg yn ymddiried yn ein gallu i weithredu ar lefel o onestrwydd a phroffesiynoldeb corfforaethol y maen nhw’n ei rannu.”