Jayne Ludlow
Mae Jayne Ludlow wedi enwi carfan bêl-droed merched Cymru ar gyfer gornest agoriadol eu hymgyrch i geisio cyrraedd Ewro 2017.
Fe fydd y crysau cochion yn teithio i Awstria ar gyfer y gêm ar 22 Medi, ac fe fyddan nhw hefyd yn wynebu Norwy, Israel a Kazakhstan yn ystod yr ymgyrch.
Hon fydd gêm gystadleuol gyntaf Ludlow fel rheolwr, ac mae prif chwaraewyr y garfan gan gynnwys Jess Fishlock, Natasha Harding a Helen Ward i gyd wedi’u henwi.
Anelu am y ddau safle uchaf
Yn eu hymgyrch ragbrofol ddiwethaf fe ddaeth tîm merched Cymru yn agos at gyrraedd y gemau ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2015, cyn colli i’r Wcrain yn eu gêm grŵp olaf.
Fe fydd enillydd pob un o’r wyth grŵp yn ymgyrch Ewro 2017, yn ogystal â chwech o’r timau sydd yn dod yn ail, yn sicrhau eu lle yn y twrnament terfynol.
Cymru yw’r trydydd detholion yn y grŵp y tu ôl i Norwy oedd yn gyntaf ac Awstria oedd yn ail, gydag Israel yn bedwerydd a Kazakhstan yn bumed.
Carfan Cymru
Kylie Davies (Reading), Loren Dykes (Bryste), Sophie Ingle (Bryste), Angharad James (Bryste), Laura-May Walkley (Reading) , Rachel Rowe (Reading), Nia Jones (Reading), Natasha Harding (Manchester City), Jo Price (dim clwb), Helen Ward (Reading), Melissa Fletcher (Reading), Rhiannon Roberts (Doncaster Rovers Belles), Hayley Ladd (Bryste), Naomi Clipston (Caerdydd), Claire Skinner (Reading), Chloe Lloyd (Caerdydd), Jess Fishlock (Seattle Reign), Kayleigh Green (Caerdydd), Helen Bleazard (Yeovil Town), Charlie Estcourt (Reading)