Gareth Bale yn dathlu ei gôl dros Gymru yn erbyn Gwlad Belg yn eu hymgyrch Ewro 2016 (llun: David Davies/PA)
Mae penderfyniad Gareth Bale i chwarae dros Gymru yn lle Lloegr “wedi costio miliynau iddo” mewn arian noddwyr, yn ôl asiant y chwaraewr.

Wrth siarad mewn cynhadledd Soccerex, dywedodd Jonathan Barnett ei fod wedi awgrymu wrth Bale pan oedd yn ifanc y dylai ystyried chwarae dros Loegr, gan fod ganddo fam-gu o fanno.

Ond fe ddenodd yr awgrym ymateb chwyrn gan dad y chwaraewr, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac sydd bellach yn chwaraewr drytaf y byd.

Diolch yn rhannol i goliau Gareth Bale, mae Cymru bellach ar drothwy cyrraedd eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958 a dim ond angen pwynt o’u dwy gêm olaf i sicrhau lle yn Ewro 2016.

Angerdd nid arian

Fe allai hi wedi bod yn stori wahanol, fodd bynnag, petai ei asiant Jonathan Barnett wedi llwyddo i ddwyn mwy o berswâd ar y bachgen ifanc a’i deulu ar ddechrau ei yrfa gyda Southampton.

Mynnodd Jonathan Barnett y byddai Bale wedi bod yn llawer cyfoethocach petai wedi penderfynu chwarae dros Loegr, a hynny oherwydd y noddwyr ychwanegol di-ri fyddai wedi tyrru ato.

Ond hyd yn oed yn y byd pêl-droed sydd ohoni heddiw doedd atyniad yr arian hwnnw ddim yn ddigon i Bale, sydd wedi pwysleisio droeon pa mor falch yw e o fod yn Gymro a gwisgo’r crys coch.

Bellach mae e’n un o sêr mwyaf y gêm, yn chwarae dros Real Madrid ac yn ennill cyflog o tua £300,000 yr wythnos, un o’r cyflogau uchaf yn y gamp.

Tad Bale yn bendant

“Pan ddaethon ni at ein gilydd y tro cyntaf pan oedd e’n 15, naethon ni drafod  os oedd e’n mynd i chwarae dros Loegr neu Gymru,” meddai Jonathan Barnett wrth drafod Bale.

“Fe aeth ei dad, sydd yn Gymro i’r carn, a’i fam hefyd, yn benwan.

“Fe allai e fod wedi chwarae [dros Loegr] drwy ei fam-gu a dw i’n dweud wrthoch chi fod hynny wedi costio miliynau a miliynau o bunnoedd iddo.

“Dychmygwch sut beth fyddai e wedi bod petai e’n chwarae dros Loegr y flwyddyn nesaf yn yr Ewros … ond mae e wrth ei fodd yn chwarae dros Gymru.”