David Cameron
Mae David Cameron wedi ei gwneud yn glir na fydd Prydain  yn cymryd rhan yng nghynlluniau’r Comisiwn Ewropeaidd i ail-leoli 160,000 o ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yr Eidal, Gwlad Groeg a Hwngari.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’r DU yn “cadw at ei chynlluniau ei hun”  ar ôl i lywydd y Comiswn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker awgrymu y dylai holl wledydd yr Undeb Ewropeaidd ysgwyddo’r baich.

Fe rybuddiodd David Cameron y byddai canolbwyntio ar ffoaduriaid sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop yn annog rhagor i ddod draw ac na fyddai’n datys y broblem.

Daeth ei sylwadau yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Mynnodd ei fod wedi siarad â Changhellor yr Almaen  Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande yn ystod y dyddiau diwethaf a’u bod nhw’n glir bod Prydain yn “chwarae rôl.”

Ond dywedodd bod angen rhoi mwy o bwyslais ar y ffoaduriaid sy’n parhau yn y rhanbarth o amgylch Syria.

“Y realiti yw bod 11 miliwn o bobl Syria wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi, a dim ond 3% sydd wedi dod i Ewrop.

“Mae’r rheiny sydd wedi cyrraedd Ewrop eisoes, o leiaf maen nhw’n ddiogel,” meddai.

Wrth ymateb i awgrym gan arweinydd dros dro’r Blaid Lafur Harriet Harman y dylai’r DU fod yn cymryd mwy na 4,000 o ffoaduriaid o Syria eleni, dywedodd David Cameron nad oedd “cyfyngiad ar nifer y bobl a allai ddim yma yn ystod y flwyddyn gyntaf.”