Ffoaduriaid yn cael eu hachub yn yr Eidal
Mae Plaid Cymru, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a’r SDLP wedi cefnogi’r cynnig i gyhoeddi adroddiad newydd a fydd yn dangos sut y gall Prydain wneud mwy i helpu’r ffoaduriaid.
Daeth y cynnig hwn gan arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, a alwodd am gyhoeddi adroddiad erbyn 12 Hydref, sy’n amlinellu sut y gall Prydain wneud mwy i helpu’r ffoaduriaid.
Croesawodd Angus Robertson y cynllun i dderbyn 20,000 o bobl o Syria erbyn 2020, ond dywedodd fod rhaid i Brydain dderbyn mwy, gan gynnwys y rheiny sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.
Bwriad y cynnig fydd ennill cefnogaeth y Llywodraeth yn ystod Dadl Diwrnod yr Wrthblaid.
Pennu ffigwr
Fe wnaeth Hywel Williams, AS Plaid Cymru, gwestiynu dulliau’r DU wrth bennu ar y ffigwr i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020.
Gofynnodd a ddefnyddiwyd yr un systemau â gwledydd eraill Ewrop wrth benderfynu ar y nifer ar sail poblogaeth, cyfradd byw a’r nifer o geisiadau a broseswyd eisoes.
Fe wnaeth Justine Greening, Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, ymateb drwy ddweud bod y targed wedi’i ystyried yn ddwys er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn gyraeddadwy, ac yn un y “gall Prydain ei weithredu”.
Aeth yn ei blaen i nodi fod angen i wledydd eraill adlewyrchu ymdrech Prydain i ddarparu prosiectau cymorth hirdymor, megis addysgu plant sydd mewn ardaloedd o ryfel ac argyfyngau eraill.
“Mae’r DU yn darparu llawer o gymorth yn y dull hwn”, meddai.
‘Rhannu dyletswydd ddynol’
Fe ychwanegodd Angus Roberts, Arweinydd yr SNP yn San Steffan, mai “dyma’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop, os nad y byd, ers yr Ail Ryfel Byd”.
“Ry’n ni’n rhannu dyletswydd ddynol at y ffoaduriaid hyn”, a dywedodd y dylai Prydain helpu ffoaduriaid sydd yng Ngwlad Groeg, yr Eidal, Awstria, Hwngari a Sweden.