Shrien Dewani gyda'i wraig Ani
Mae teulu dynes a gafodd ei llofruddio yn Ne Affrica wedi galw ar ei gŵr i ateb cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd iddi cyn ei marwolaeth.

Cafwyd Shrien Dewani yn ddieuog y llynedd o drefnu i’w wraig Ani gael ei llofruddio ar eu mis mêl yn Cape Town.

Cafodd Ani ei saethu’n farw ar 14 Tachwedd, 2010.

Dywed teulu Ani y dylai Shrien Dewani ymddangos gerbron crwner yng ngwledydd Prydain i egluro beth ddigwyddodd.

Ond mae’r crwner Andrew Walker wedi dweud bod gan Shrien Dewani yr hawl i beidio siarad rhag ofn y bydd yn ei gysylltu ei hun â’i llofruddiaeth.

Ond fe gytunodd i anfon cwestiynau teulu Ani Dewani at Shrien Dewani yn y gobaith y gallai gynnig atebion.

Atebion

Dywedodd ewythr Ani Dewani, Vinod Hindocha ei fod yn amau a fydd y teulu byth yn derbyn atebion.

Mae’r teulu wedi gwrthod dweud hyd yma a fydden nhw’n ystyried dwyn achos preifat yn ei erbyn.

Cafodd Shrien Dewani ei estraddodi i Dde Affrica’r llynedd ond dywedodd y barnwr yn yr achos fod “anghysonderau” yn yr achos yn ei erbyn.

Daeth i’r amlwg yn ystod yr achos fod Shrien Dewani yn ddeuryw a’i fod wedi defnyddio puteiniaid gwrywaidd.

Mae tri o bobol – Zola Tongo, Mziwamadoda Qwabe a Xolile Mngeni – wedi cael eu carcharu mewn perthynas â’r achos.

Mae teulu Ani Dewani yn dweud bod anghysonderau yn yr hyn mae Shrien Dewani wedi dweud wrthyn nhw, y wasg a heddlu De Affrica.

Dywedodd y crwner wrth y teulu nad oes ganddo rym i alw tystion o Dde Affrica ar gyfer cwest.

Bydd gwrandawiad pellach ar Hydref 9.