Mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n gweithio dros 48 awr yr wythnos wedi cynyddu  22%, yn ôl Cyngres yr Undebau Llafur  Cymru (TUC).

Mae nifer y bobl sy’n gweithio dros 48 awr yr wythnos yng Nghymru wedi cyrraedd 131,000 erbyn hyn, sy’n gynnydd o 24,000 ers 2010.

Yn Swydd Efrog a Humber bu’r cynnydd fwyaf ym Mhrydain gyda chynnydd o 30%, ond Cymru oedd â’r ffigwr uchaf ar ôl hyn.

Yr Alban oedd â’r cynnydd lleiaf yn y nifer sy’n gweithio dros 48 awr yr wythnos sef 6%.

Perygl i weithwyr

“Mae diwylliant oriau hir Prydain yn rhoi iechyd gweithwyr mewn perygl. Mae gweithio dros 48 awr yn cynyddu’r risg o gael strôc, clefyd y galon a diabetes,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady.

Mae TUC yn credu dylai Llywodraeth y DU ail-asesu ei safbwynt ar y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd, sy’n rhan o gyfraith y DU ac sy’n sicrhau mai 48 awr yw’r mwyafswm y gall rywun weithio mewn wythnos.

Er, yn ôl yr undeb, mae llawer o gyflogwyr yn teimlo dan bwysau i optio allan o hyn fel amod o’u cyflogaeth, gan fod optio allan unigol yn cael ei ganiatáu gan y gyfraith yn y DU.

Yn ôl TUC, mae Prydain yn ‘gorweithio’ a dylai’r llywodraeth ‘ddiddymu’r cynllun optio allan yn raddol dros y blynyddoedd nesaf’.