Karen Buckley
Mae’r llofrudd Alexander Pacteau wedi cael ei ddedfrydu i o leiaf 23 mlynedd dan glo heddiw am lofruddio myfyrwraig 24 oed o Iwerddon.

Roedd Pacteau wedi curo Karen Buckley i farwolaeth ar ôl noson allan yn ninas Glasgow.

Mae ei rhieni,  John a Marian Buckley, wedi croesawu’r ddedfryd gan ddweud eu bod yn gobeithio nai châi fyth ei ryddhau o’r carchar.

Roedd Alexander Pacteau wedi cyfaddef i’r drosedd a ddigwyddodd ar ddechrau mis Ebrill ar ôl i’r heddlu wneud achos “cryf iawn” yn ei erbyn.

Roedd Karen Buckley, nyrs o Iwerddon wedi bod yn Glasgow am rai misoedd yn unig cyn iddi gael ei lladd. Roedd yn astudio am radd feistr mewn therapi iechyd galwedigaethol ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow.

Dod ar draws y llofrudd ar noson allan

Roedd ar noson allan yn y ddinas pan ddaeth ar draws Alexander Pacteau ac mae ffilm CCTV ohonynt yn siarad y tu allan i glwb nos.

Aeth Karen Buckley i mewn i gar y dyn 21 oed ac fe wnaeth ei gyrru hi i ardal gyfagos cyn ei churo â sbaner tua dwsin o weithiau a’i lladd.

Roedd barnwr yr achos wedi disgrifio’r llofruddiaeth fel un “ciaidd, heb synnwyr na rheswm”.