Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon
Mae Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth Prydain, Michael Fallon wedi awgrymu y gallai’r llywodraeth lansio rhagor o ymosodiadau awyrennau di-beilot i ladd brawychwyr yn Syria.

Daw hyn ar ôl i awyrennau di-beilot yr Awyrlu ladd dyn o GaerdyddReyaad Khan oedd yn ymladd dros y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.

Mae nifer o bobl wedi beirniadu’r ymosodiad hwn ond mae David Cameron wedi amddiffyn ei benderfyniad, gan ddweud bod Reyadd Khan wedi bod yn cynllwynio ymosodiadau ‘barbaraidd’ ar y DU.

Cafodd Reyaad Khan ei ladd yn dilyn ymosodiad ar y cerbyd roedd yn teithio ynddo ar 21 Awst yn ardal Raqqah, Syria.

‘Dyletswydd i weithredu’

Mae Michael Fallon wedi amddiffyn y  penderfyniad a dywedodd y byddai’r Llywodraeth yn lansio ymosodiadau tebyg eto os na fydd ffordd arall o atal brawychiaeth.

“Mae brawychwyr eraill yn rhan o gynllwynion eraill a allai ddod i’r amlwg dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Byddwn ni ddim yn oedi i gymryd camau tebyg eto.

“Os oes gan y Llywodraeth wybodaeth a’r gallu i atal ymosodiadau brawychol o’r fath, yna mae dyletswydd arni i ddelio gyda hynny.”

Mae ’na feirniadaeth bod yr ymosodiad ar Khan yn gosod “cynsail peryglus” a rhybuddion y gall arwain at her gyfreithiol.

Roedd ASau wedi gwrthod cynlluniau yn 2013 i ganiatáu i Brydain weithredu’n filwrol yn Syria yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.

Dywedodd Fallon fod y Llywodraeth yn barod i weithredu yn erbyn IS ond byddai angen cynnal pleidlais newydd yn y Senedd ynglŷn â gweithredu’n filwrol yn Syria.

Yr SNP yn mynnu gweld y wybodaeth

Mae’r SNP wedi mynnu gweld y wybodaeth wnaeth arwain at ladd Reyaad Khan.

Cafodd brawychwr arall ei ladd gydag ef – Ruhul Amin o’r Alban oedd hefyd yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) .

Mae Aelod Seneddol yr Alban, Humza Yousaf, o’r SNP, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am anwybyddu pleidlais yn San Steffan yn erbyn gweithredu’n filwrol yn Syria.

Er bod David Cameron wedi dweud bod Reyaad Khan wedi bod yn cynllwynio ymosodiadau ar Brydain, yn ôl ffrind Ruhul Amin, Stephen Marvin, dywedodd y jihadydd ifanc wrtho: “Rydym ond yn ymosod ar bobl sy’n ymosod arnom ni.”

Mae Humza Yousaf, sydd hefyd yn Weinidog Datblygiad Rhyngwladol Llywodraeth yr Alban wedi awgrymu y dylai Llywodraeth y DU rannu’r wybodaeth ag arweinwyr y pleidiau os yw’n rhy sensitif i’w rhannu â’r Senedd i gyd.

“Os mai gweithred o hunanamddiffyn oedd hyn, byddai’n ddefnyddiol i Lywodraeth y DU rannu’r wybodaeth oedd y tu ôl iddo,” meddai wrth BBC Radio Scotland.