Mae pleidleiswyr yn wynebu refferendwm “tecach” ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl un AS, ar ôl i David Cameron gael ei drechu yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr dros bleidlais i lacio’r rheolau ymgyrchu.

Roedd 37 o ASau Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig a chafodd y Llywodraeth ei threchu gan 27 o bleidleisiau ar ôl i Lafur wrthwynebu’r cynlluniau.

Roedd cynnig y Llywodraeth yn ymwneud a chynlluniau i lacio’r gwaharddiadau ar ymgyrchoedd sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth.

Mae disgwyl i refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr UE gael ei gynnal ar ddiwedd 2017.

Dywedodd Hilary Benn ar ran y Blaid Lafur fod y Ceidwadwyr “yn ceisio chwarae’n llac gyda threfniadau’r refferendwm.”

‘Pryderon di-sail’

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Bernard Jenkin, a oedd ymhlith y gwrthryfelwyr Torïaidd: “Dwi ddim yn credu fod hygrededd y Llywodraeth yn y fantol.

“Mae gan y Llywodraeth bryderon ond mae’r pryderon hyn yn ddi-sail. Mae’n amlwg nad oes dim o’i le gyda’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda fel mae’n sefyll.”

Ymhlith y gwrthryfelwyr eraill oedd cadeirydd dylanwadol y Pwyllgor 1922, Graham Brady, y cyn-weinidogion Liam Fox, Cheryl Gillan, David Jones, Owen Paterson a John Redwood.

Dywedodd Aelod Seneddol Ukip Douglas Carswell: “Mae’r noson hon yn noson dda i’r Senedd, i Brydain a Democratiaeth. Mae’r garfan o blaid gadael Ewrop yn ennill y ddadl.”