Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi rhybuddio’r Prif Weinidog David Cameron i beidio defnyddio’r argyfwng ffoaduriaid fel esgus i lansio ymgyrch fomio yn Syria.

Dywedodd Leanne Wood y byddai gweithredu milwrol heb strategaeth glir yn gyfystyr ag “arllwys tanwydd ar y tân”, ac fe alwodd ar Brydain i ganolbwyntio ar ymdrechion dyngarol trwy ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid.

‘Esgus i lansio ymgyrch fomio’

Mae Leanne Wood yn rhybuddio na ddylid defnyddio’r argyfwng i ddibenion milwrol: “Mae perygl nawr y bydd yr argyfwng ffoaduriaid yn cael ei ddefnyddio fel esgus i lansio ymgyrch fomio yn Syria.

“Byddai gweithredu milwrol, yn enwedig heb strategaeth ac amserlen glir, yr un fath ag arllwys tanwydd ar y tân. Mae UDA wedi bod yn lansio cyrchoedd awyr ers misoedd bellach heb fawr o effaith. Oes ganddyn nhw unrhyw syniad faint o ddinasyddion diniwed sydd wedi eu lladd gan yr ymosodiadau hyn?”

Ychwanegodd: “Bydd mwy o ymosodiadau fel hyn yn arwain at frwydro ffyrnicach, yn dinistrio’r ychydig isadeiledd sydd ar ôl yn Syria, ac yn debygol o arwain at fwy o ffoaduriaid.”

‘Arswydo’

Wrth ymateb i’r newyddion bod y jihadydd o Gaerdydd Reyaad Khan wedi’i ladd mewn cyrch milwrol, dywedodd Leanne Wood: “Mae Plaid Cymru hefyd wedi ei arswydo gan y newyddion fod Llywodraeth y DU wedi awdurdodi llofruddio dinesydd Prydeinig ar dir Syria, er gwaetha’r bleidlais Seneddol yn gwrthwynebu gweithredu milwrol yn y rhanbarth.”

Ychwanegodd: “Rhaid i lywodraeth y DU ddefnyddio ei holl ddylanwad i ddarbwyllo holl wledydd y Dwyrain Canol sy’n parhau i ganiatáu’r llif o arfau, tanwydd, ac arian i ddwylo IS.”

‘Siom’

Mae Leanne Wood hefyd wedi mynegi ei siom yn dilyn cyhoeddiad David Cameron ddoe y bydd 20,000 o ffoaduriaid yn cael eu hailgartrefu yn y DU dros y pum mlynedd nesaf.

Dywedodd: “Rwy’n falch fod y Prif Weinidog, o’r diwedd, yn dechrau derbyn ei gyfrifoldeb i sicrhau fod y DU yn chwarae rhan mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol hwn.

“Mae’r ffaith y bydd y DU yn derbyn 20,000 o ffoaduriaid i’w groesawu ond ni ddylai’r ffigwr hwn fod yn derfyn a dylai’r polisi gael ei weithredu cyn gynted â phosib. Mae’r sefyllfa yn ddifrifol y funud hon – ni all miloedd o bobl aros nes 2020 fel yr awgryma’r Prif Weinidog.”