Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Bydd arian o gyllideb cymorth rhyngwladol Prydain yn cael ei ddefnyddio i helpu cynghorau i ddarparu llety i ffoaduriaid.

Dywedodd y Canghellor George Osborne y byddai’r arian hwn yn ddigon i dalu costau cynghorau dros y flwyddyn gyntaf.

Fe ddaeth ei gyhoeddiad ar ôl i’r llywodraeth gytuno i dderbyn miloedd yn rhagor o ffoaduriaid o Syria.

Dywedodd hefyd fod y llywodraeth yn ailedrych ar y ffordd y caiff y gyllideb cymorth rhyngwladol ei defnyddio.

“Mae gennym gyllideb cymorth rhyngwladol o £12 biliwn, ac rydym yn gwario £250 miliwn ar wledydd fel Syria, Gwlad yr Iorddonen a Twrci,” meddai. ‘Rhaid inni edrych o’r newydd ar y ffyrdd yr ydym yn defnyddio’r gyllideb hon.

“Mae’r gyllideb yn gysylltiedig â’n GDP, ac mae’n GDP yn codi. Felly gadewch inni ddefnyddio’r arian ychwanegol yn benodol ar y sialensau sy’n wynebu Prydain, gan gynnwys yr argyfwng hwn ar garreg ein drws.”

Mae disgwyl y bydd y llywodraeth yn manylu ar ei chynlluniau i dderbyn rhagor o ffoaduriaid pan fydd y senedd yn ailagor yfory.