Ffoaduriad yn ngorsaf Keleti yn Budapest yr wythnos ddiwethaf, cyn i'r ffiniau agor ddoe (llun: PA)
Mae miloedd o ffoaduriaid wedi cyrraedd dinasoedd ledled yr Almaen ar ôl teithio yno ar drên neu fws dros nos.

Yn eu plith mae 350 wedi cyrraedd dinas Dresden, lle mae ysgol i swyddogion byddin y wlad wedi cael ei throi’n llety dros dro i ffoaduriaid.

Mae cannoedd hefyd wedi teithio ar drenau i Hamburg yn y gogledd a Dormund yn y gorllewin, ac mae dros 300 wedi cyrraedd y brifddinas Berlin ar fws.

Mae disgwyl y bydd miloedd yn rhagor, y mwyafrif ohonynt yn Syriaid, Iraciaid ac Afghaniaid sy’n ffoi rhag rhyfel, yn cyrraedd yr Almaen ac Awstria o Hwngari heddiw.

Cafodd y ffoaduriaid adael Hwngari ddoe ar ôl i’r wlad agor ei ffiniau gydag Awstria.